BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi'r camau nesaf o ran llacio'r cyfyngiadau

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi pecyn tair wythnos o fesurau i lacio mwy ar gyfyngiadau coronafeirws Cymru.

Bydd y mesurau'n cael eu cyflwyno fesul cam bob dydd Llun dros y cylch adolygu nesaf, a fydd yn gweld rhannau helaeth o ddiwydiannau ymwelwyr, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth Cymru yn ail-agor.

Bydd tafarndai, caffis a bwytai yn agor yn yr awyr agored a bydd trinwyr gwallt, barbwyr a siopau trin gwallt symudol yn ail-agor drwy apwyntiad o ddydd Llun (13 Gorffennaf).

Rhoddodd y Prif Weinidog hefyd arwydd i'r diwydiant harddwch ehangach, gan gynnwys tatwyddion, i ddechrau paratoi i ailagor o 27 Gorffennaf, os bydd amodau'n caniatáu hynny.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.