Os ydych chi'n gymwys, ar sail eich ffurflenni treth, i hawlio SEISS (y Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig), bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cysylltu â chi ganol mis Ebrill i roi dyddiad i chi ar gyfer gwneud eich hawliad. Byddwch yn derbyn y dyddiad naill ai drwy e-bost, llythyr neu o fewn y gwasanaeth ar-lein.
Bydd y gwasanaeth ar-lein i hawlio'r pedwerydd grant ar gael o ddiwedd mis Ebrill 2021, ac mae'r pedwerydd grant yn cwmpasu 1 Chwefror 2021 tan 30 Ebrill 2021.
Bydd angen i chi gadarnhau eich bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd eraill pan fyddwch chi'n gwneud eich hawliad.
Rhaid i chi wneud eich hawliad ar neu cyn 1 Mehefin 2021.
Gallwch ddilyn y camau hyn i'ch helpu chi i ddeall yr hyn y gallwch chi ei wneud nawr.
- Dysgwch pwy all hawlio
- Gwiriwch fod eich busnes wedi cael ei effeithio gan y coronafeirws
- Dysgwch sut mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gweithio allan eich grant
- Gwnewch eich hawliad pan fydd y gwasanaeth ar gael
- Dysgwch beth sy'n digwydd ar ôl i chi hawlio
Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.