Oes gennych chi syniad da a allai helpu eich busnes ac Amaethyddiaeth Cymru yn ehangach i ddod yn fwy cynaliadwy?
Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer cyllid newydd lle mae Cyswllt Ffermio yn sicrhau bod £5,000 ar gael i ffermwyr a thyfwyr i arbrofi eu syniadau a’u gwireddu.
Mae Cyswllt Ffermio wedi datblygu’r Cyllid Arbrofi, i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb o fewn busnesau amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd.
Mae yna lawer o newidiadau ar y gorwel i amaethyddiaeth ac mae nawr yn amser gwych i archwilio syniad a allai fod o fudd i'ch fferm gan ganiatáu i chi fynd i'r afael â phroblemau 'go iawn' neu wirio a yw syniad ymchwil yn gweithio'n ymarferol ar eich fferm.
Dyddiad cau: 12 Mehefin 2023 (bydd ffenestri ymgeisio eraill yn ystod Haf a Hydref 2023).
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyllid arbrofi - gwireddu eich syniad | Farming Connect (gov.wales)