BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid Grant Cymunedau Gwydn

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru £2 filiwn o gyllid grant ar gael i helpu unigolion a sefydliadau i gynyddu cyfranogiad y gymuned ym myd natur er mwyn meithrin cymunedau gwydn.

Bydd y cyllid yn helpu i gyflwyno prosiectau sy’n rhoi cyfleoedd i bobl:

  • wella eu hiechyd meddwl a chorfforol
  • dysgu sgiliau newydd
  • bod yn rhan o gymunedau mwy diogel
  • cael mwy o fynediad i fyd natur
  • gwella’u hymwybyddiaeth o effaith newid hinsawdd
  • cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau am eu hamgylchedd naturiol
  • cymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion

Mae’r themâu sy’n berthnasol i feithrin cymunedau gwydn ar gyfer pob un o ranbarthau Cymru fel a ganlyn:

Pwy gaiff wneud cais

  • Unigolion
  • Sefydliadau’r sector cyhoeddus
  • Elusennau cofrestredig
  • Prifysgolion, sefydliadau addysg uwch eraill, a sefydliadau ymchwil
  • Sefydliadau’r trydydd sector
  • Sefydliadau’r sector preifat

Rhaid ichi ymgeisio cyn canol dydd ar 19 Medi 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i  Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyllid grant cymunedau gwydn (naturalresources.wales)

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.