BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid Grant Deallusrwydd Artiffisial: Prosiectau Arddangos Cadwyn Gyflenwi

Engineer using a digital tablet

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn o gyllid grant i gyflawni prosiectau arddangos deallusrwydd artiffisial (AI) a fydd yn gwella effeithlonrwydd y gadwyn gyflenwi ac yn rhoi hwb i gynhyrchiant.

Dyma gyfle gwych i sefydliadau sy'n frwd dros ddefnyddio AI i fynd i'r afael â heriau cadwyni cyflenwi busnes mewn sectorau allweddol fel adeiladu, cludiant, logisteg warysau, ac amaethyddiaeth a phrosesu bwyd. 

Pwy ddylai ymgeisio:

  • Y brwdfrydig rai sydd ar flaen y gad o ran canfod datrysiadau AI a’r timau hynny sy'n mynd i'r afael â heriau cadwyn gyflenwi.
  • Arloeswyr sy'n datblygu datrysiadau AI er mwyn gwella effeithlonrwydd cadwyni cyflenwi a chynyddu cynhyrchiant.
  • Busnesau a sefydliadau academaidd sy'n awyddus i gydweithio â busnesau bach a chanolig er mwyn mynd i'r afael â heriau neu i fanteisio ar gyfleoedd drwy arloesi ym maes AI.

Gwyliwch y recordiad o’r digwyddiad briffio er mwyn:

  • Dysgu am y meini prawf allweddol o ran cwmpas a chymhwysedd. 
  • Cael gwybodaeth fanwl am y broses ymgeisio. 
  • Gwella eich siawns o sicrhau cyllid ar gyfer mentrau AI uchel eu heffaith.

Bydd y gystadleuaeth yn cau ar 21 Awst 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: BridgeAI Supply Chain Demonstrator - Innovate UK Business Connect (ktn-uk.org)

Mae gan Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.

Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.