BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid Horizon Ewrop ar gyfer arloeswyr

Bellach mae modd i fusnesau, arloeswyr ac ymchwilwyr y DU wneud cais am filiynau o bunnoedd o gyllid drwy raglen Horizon Ewrop yr UE.

Mae UKRI (UK Research and Innovation)  yn annog busnesau, arloeswyr ac ymchwilwyr i wneud cais am fynediad i farchnadoedd, galluoedd a thechnolegau newydd yn ogystal â biliynau o bunnoedd o gyllid drwy gynllun Horizon Ewrop.

Horizon Ewrop yw rhaglen ariannu allweddol yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesi gyda chyllideb o €95.5 biliwn.

Cymorth am ddim i ymgeiswyr
Mae darpar dderbynwyr cyllid y DU yn gymwys i gymryd rhan yn y galwadau cyntaf am gynigion ar gyfer rhaglen Horizon Ewrop a gallant ddysgu mwy am Horizon Europe drwy fynd i dudalen wybodaeth Horizon Ewrop UKRI.

Am ragor o wybodaeth ewch i UKRI.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.