Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi lansio cylch cyllido newydd i hyrwyddo’r broses o greu rhwydweithiau newydd a chryfhau cyfleoedd rhwydweithio presennol ledled sector y celfyddydau a’r sector diwylliant.
Gall rhwydweithiau o bob math – grwpiau lleol/rhanbarthol; grwpiau dan arweiniad artistiaid neu rwydweithiau sydd wedi’u cysylltu gan fath o gelfyddyd neu weithgaredd – wneud cais am grantiau gwerth hyd at £2,000 o’r Gronfa Cydrannu ar gyfer prosiectau sy’n hyrwyddo ac yn cryfhau amrywiaeth a chynhwysiant ledled sector y celfyddydau, gan ehangu ymgysylltiad â chymunedau amrywiol.
Gallai’r cyllid helpu i dalu am gyfarfodydd untro i ddwyn ynghyd unigolion neu sefydliadau sy’n rhannu diben cyffredin ac sydd â’r nod o sefydlu rhwydwaith, neu helpu i dalu am y gost o sefydlu fforymau/cymunedau ar-lein.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Gorffennaf 2021.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.