BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r farchnad fepio anghyfreithlon

Vapes

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i Safonau Masnach Cymru er mwyn helpu i fynd i'r afael â fepio anghyfreithlon yng Nghymru.

Bydd y cyllid yn adeiladu ar ymgyrch flaenorol i fynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon, lle cymerwyd meddiant o dros 840,000 o sigaréts anghyfreithlon a mwy na 400 cilogram o dybaco rholio â llaw anghyfreithlon o eiddo masnachol yng Nghymru.

Bydd swyddogion Safonau Masnach Cymru yn mynd i'r afael â fepio anghyfreithlon drwy:

  • ymgymryd â phryniant prawf
  • defnyddio cŵn i adnabod manwerthwyr twyllodrus
  • casglu gwybodaeth
  • cynnal gwiriadau mewn porthladdoedd i sicrhau bod cynhyrchion sy'n anghyfreithlon ac o bosibl yn beryglus yn cael eu tynnu oddi ar y silff yn gyflym ac yn effeithiol

Bydd hyn yn helpu i ddiogelu defnyddwyr rhag y cynhyrchion hyn, gan gynnwys plant a phobl ifanc sy'n fepio fwyfwy, ac amddiffyn busnesau cyfreithlon yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cyllid Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r farchnad fepio anghyfreithlon | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.