Bydd ail rownd Cronfa Refeniw Cerddoriaeth Cymru Greadigol 2 yn agor ddydd Llun 24 Mehefin 2024.
Ffocws y rownd hon yw helpu busnesau cerddoriaeth gydag:
- ymgyrchoedd ar gyfer rhyddhau cerddoriaeth newydd
- hyrwyddo cerddoriaeth fyw
- cynhyrchu cerddoriaeth at ddefnydd cefndir neu achlysurol yn y cyfryngau
- cherddoriaeth Gymraeg.
Bydd busnesau cerddoriaeth yn gallu gwneud cais am rhwng £20,000 a £40,000 i'w wario ar brosiectau fyddai'n elwa ar gymorth, oherwydd cyfyngiadau ariannol.
Gallai'r prosiectau gynnwys: hyrwyddo cerddoriaeth fyw; rhyddhau ymgyrchoedd ar gyfer recordiau estynedig / albymau newydd; amser stiwdio ychwanegol; neu gerddorion sesiwn, er enghraifft.
Mae'r cyllid yn cwmpasu'r sbectrwm llawn o genres cerddoriaeth boblogaidd gyfoes (electronig, hip-hop, indi ac amgen, metel a phync, pop, roc, etc). Nid yw'n cwmpasu genres sydd eisoes yn cael cymorth fel cerddoriaeth glasurol neu jazz.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cynnig yw Dydd Llun 22 Gorffennaf 2024 am 12pm.
Cliciwch ar y dolenni canlynol i gael rhagor o wybodaeth: