Heddiw (17 Mai 2023), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod rhaglen beilot sy’n cefnogi pobl sy’n gweithio yn sector sgrin Cymru gyda’u hiechyd meddwl ar fin elwa o £150,000 ychwanegol yn dilyn cam cyntaf llwyddiannus.
Wedi’i ariannu drwy Gymru Creadigol, mae rhaglen yr Hwylusydd Lles yn bartneriaeth rhwng rhaglen CULT Cymru, Undebau Creadigol yn Dysgu gyda’i Gilydd ac arbenigwyr iechyd meddwl a llesiant 6ft from the Spotlight CIC.
Caiff y rhaglen ei gyrru a'i lliwio gan Grŵp Cynghori o gyflogwyr, undebau a chyrff diwydiant i ymateb i faterion a heriau a rannwyd gan bobl sy'n gweithio yn y sector.
Yng ngham cyntaf y peilot a gynhaliwyd rhwng Medi 2022 a Mawrth 2023, cafodd deg cwmni cynhyrchu fynediad at grantiau o hyd at £15,000 i sicrhau bod Hwylusydd Llesiant sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn rhan o’u cynyrchiadau i hyrwyddo iechyd meddwl a darparu cyngor llesiant yn y sector sgrin.
Dangosodd adborth gan gyflogwyr a'r gweithlu fod yr hwyluswyr yn ei gwneud hi'n haws o lawer datrys problemau llesiant ac wedi helpu i wella'r diwylliant gwaith. Nododd nifer o gynyrchiadau hefyd fod cael Hwylusydd Lles ar y set wedi helpu i gynyddu eu cynhyrchiant cyffredinol.
Bydd Cam 2 y peilot yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd dros y chwe mis diwethaf ac yn galluogi carfan newydd o gwmnïau cynhyrchu i elwa ar y cymorth a'r cyngor sydd ar gael gyda'r nod o gynyddu llesiant ar y set a chadw mwy o staff.
Fel rhan o gam 2 y peilot bydd chwe Hwylusydd Llesiant newydd o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys pobl o Gefndiroedd Mwyafrifol y Byd, pobl anabl a'r gymuned LGBTQ+ yn cael eu hyfforddi. Mae cynlluniau hefyd i ehangu’r peilot i sectorau creadigol eraill fel cerddoriaeth.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolen ganlynol Cyllid pellach ar gyfer hwylusydd lles yn sector sgrin Cymru | LLYW.CYMRU