BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid: Rhyngwladol a’r Undeb Ewropeaidd

Galwad ar y Cyd am Gynigion Cymru-Québec 2023 – Rhoddir blaenoriaeth i gynigion sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: adferiad gwyrdd, yr economi, gwyddoniaeth ac arloesi, a’r celfyddydau a diwylliant. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11.59pm ar 24 Gorffennaf 2023. Cysylltwch â QuebecWalesProjects@llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr alwad ariannu hon.

Menter i annog cydweithio economaidd ag Oita, Japan – Bydd cynigion yn canolbwyntio ar feysydd megis y celfyddydau a diwylliant, chwaraeon, y byd academaidd, twristiaeth, a bwyd a diod. Mae’r fenter ar agor i geisiadau nawr, ond mae pwyslais ar gyflwyno hawliadau am arian sydd i’w wario erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Anfonwch e-bost at AgileCymru@llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r alwad hon am geisiadau cyllid.

Galwad am gynigion, gan Gymru ac rhanbarthau yr UE (Cymru Ystwyth) – Nod y fenter hon yw annog cydweithio economaidd rhwng Cymru ac rhanbarthau pwysig yr UE. Mae’r fenter ar agor i geisiadau nawr, ond mae pwyslais ar gyflwyno hawliadau am arian sydd i’w wario erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Anfonwch e-bost at AgileCymru@llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r alwad hon am geisiadau cyllid.

Galwad am gynigion ar draws ardal Môr Iwerddon (Cymru Ystwyth) – Nod y fenter hon yw annog cydweithio economaidd ar draws ardal Môr Iwerddon. Mae’r fenter ar agor i geisiadau nawr, ond mae pwyslais ar gyflwyno hawliadau am arian sydd i’w wario erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Anfonwch e-bost at CymruYstwyth@llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r alwad hon am geisiadau cyllid.


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.