Mae Sefydliad y Performing Rights Society for Music (PRS) yn cefnogi doniau eithriadol o bob cefndir, o bob cwr o’r Deyrnas Unedig ac o bob genre.
Mae gan y PRS lawer o fentrau sy’n darparu cymorth ariannol ar gyfer creu, perfformio a/neu hyrwyddo cerddoriaeth ragorol, gan gynnwys:
- Cyllid i sefydliadau – hyrwyddwyr, sefydliadau datblygu doniau, gwyliau, lleoliadau, curaduron, grwpiau perfformio mawr
- Cyllid i Grewyr Cerddoriaeth – awduron caneuon, cyfansoddwyr, artistiaid, bandiau, cynhyrchwyr neu berfformwyr sy’n ysgrifennu eu cerddoriaeth eu hunain
Os ydych chi’n grëwr cerddoriaeth dawnus o’r DU, dysgwch ragor am gymorth Sefydliad y PRS ar eu tudalennau cyllido: