BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid technoleg NHSX i helpu pobl sy’n ynysu oherwydd coronafeirws

Mae NHSX wedi cyhoeddi £500,000 mewn cyllid ar gyfer arloeswr fyddai’n gallu cynnig atebion digidol i helpu’r rheini sy’n hunanynysu oherwydd coronafeirws.

Mae’r rhaglen, TechForce19, yn chwilio am atebion digidol a fydd yn gallu cael eu defnyddio’n gyflym. Gallen nhw gynnwys:

  • cymorth gofal cymdeithasol o bell
  • adnoddau ar gyfer recriwtio
  • hyfforddi a chydlynu gwirfoddolwyr lleol
  • adnoddau ar gyfer asesu’r galw’r am adnoddau i’r gweithlu o gwmpas y wlad
  • gwasanaethau digidol ar gyfer hunan-reoli iechyd meddwl a lles

Mae hyd at £25,000 ar gael i bob cwmni sy’n cymryd rhan, a’r nod yw gallu defnyddio’r atebion “ar raddfa fawr” o fewn wythnosau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mawrth 2020.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Techforce19.UK.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.