BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllideb i "ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed"

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb newydd i helpu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn wyneb "storm berffaith o bwysau ariannol".

Wrth gyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, mai hon yw un o'r cyllidebau anoddaf ers dechrau datganoli.

Mae Cyllideb Ddrafft eleni yn adeiladu ar y cynlluniau gwariant a nodwyd yn y Gyllideb dair blynedd a gyhoeddwyd y llynedd. Mae penderfyniadau anodd wedi cael eu gwneud i ail-flaenoriaethu cyllid o fewn cyllidebau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod cymaint o gymorth â phosibl yn cael ei ddarparu i wasanaethau cyhoeddus, ac i’r bobl a’r busnesau sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw a'r dirwasgiad.

Mae'r Gyllideb Ddrafft hefyd yn dyrannu’r cyllid ychwanegol a ddaeth i Gymru drwy Ddatganiad yr Hydref.

Mae £165m ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar gyfer GIG Cymru er mwyn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen.

Mae £227m ychwanegol yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol er mwyn helpu i ddiogelu'r gwasanaethau y mae cynghorau yn eu darparu – gan gynnwys ysgolion – yn ogystal â chyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol. Mae'r cyllid hwn hefyd yn cyfrannu at y pecyn cymorth busnes dwy flynedd ehangach, sy’n werth £460m, a gafodd ei gyhoeddi ddoe (12 Rhagfyr 2022).

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyllideb i "ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed" | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.