BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllideb i ddiogelu'r gwasanaethau sydd bwysicaf i chi

carer holding the hand of a patient

Mae'r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau rheng flaen sy'n cael eu rhedeg gan gynghorau, gan gynnwys ysgolion a gofal cymdeithasol, wrth wraidd Cyllideb ddrafft 2024-2025, meddai'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans heddiw (19 December 2023).

Bydd £450 miliwn ychwanegol ar gael i'r GIG a bydd setliad craidd llywodraeth leol yn cynyddu 3.1%. Ond hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol, mae byrddau iechyd a chynghorau yn wynebu blwyddyn anodd iawn i ddod.

Wrth iddi gyhoeddi cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025, dywedodd y Gweinidog Cyllid fod Gweinidogion Cymru, wrth ddatblygu'r Gyllideb ddrafft, wedi wynebu'r "dewisiadau mwyaf cyfyng a phoenus o ran cyllideb Cymru ers dechrau datganoli".

O ganlyniad i chwyddiant sydd wedi aros yn uchel, mae cyfanswm cyllideb Cymru yn werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021. Yn ogystal, nid yw'r setliad, sy'n dod yn bennaf gan Lywodraeth y DU ar ffurf grant bloc, yn ddigonol i ymateb i'r pwysau eithriadol ar wasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl.

Daw'r cyllid ychwanegol ar gyfer y GIG yn 2024-2025 ar ben y £425 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Hydref ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon, ac a gafodd ei wneud yn rhan reolaidd o'r gyllideb ar gyfer y dyfodol. Golyga hyn y bydd maes iechyd yn cael mwy na 4% o gynnydd ar gyfer 2024-25, o'i gymharu â llai nag 1% yn Lloegr.

Bydd setliad craidd llywodraeth leol, sydd, ynghyd â'r dreth gyngor leol, yn ariannu gwasanaethau fel ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, casglu biniau a chyfleusterau hamdden lleol, hefyd yn cael ei ddiogelu, gan gynyddu 3.1%.

Mae'r Gyllideb ddrafft wedi'i hail-lunio yn unol ag egwyddorion a gwerthoedd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys diogelu gwasanaethau rheng flaen craidd, ble bynnag y bo modd; sicrhau'r budd mwyaf i aelwydydd sy'n cael eu taro galetaf; a blaenoriaethu swyddi ble bynnag y bo modd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth i bobl sy'n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw, gan gynnwys drwy'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a phecyn cymorth gwerth £384 miliwn i dalwyr ardrethi annomestig, sy'n cynnwys rhyddhad i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y bumed flwyddyn yn olynol.

Bydd Cronfa Paratoi at y Dyfodol, sy'n gronfa newydd gwerth £20 miliwn, yn cael ei chyflwyno yn gynnar yn 2024-2025 i fusnesau.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid hefyd y bydd y Llywodraeth yn ystyried yn ofalus a oes angen codi taliadau am rai gwasanaethau – fel gofal deintyddol o dan y GIG, ffioedd dysgu prifysgolion a gofal cartref – er mwyn helpu i godi arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac addysg uwch, yn sgil sefyllfa bresennol y gyllideb.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.