Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei Chyllideb Wanwyn, a dyma rai o’r pwyntiau allweddol:
- Estyniad o'r Cynllun Cefnogi Swyddi hyd at fis Medi 2021 ledled y DU.
- Estyniad o'r cynllun Cymhorth Incwm i’r Hunangyflogedig ledled y DU hyd at fis Medi 2021, gyda 600,000 yn fwy o bobl wedi cyflwyno ffurflen dreth yn 2019-20 bellach yn gallu hawlio am y tro cyntaf.
- Cynllun Benthyciadau Adferiad newydd ledled y DU i sicrhau bod benthyciadau ar gael rhwng £25,001 a £10 miliwn, a chyllid asedau ac anfonebau rhwng £1,000 a £10 miliwn, i helpu busnesau o bob maint drwy'r cam adferiad nesaf.
- Estyniad chwe mis o'r codiad Credyd Cynhwysol £20 yr wythnos ym Mhrydain Fawr. Taliad untro o £500 i hawlwyr Credydau Treth Gwaith cymwys ledled y DU.
- Estyniad i'r toriad TAW i 5% ar gyfer lletygarwch ac atyniadau ledled y DU tan ddiwedd mis Medi, ac yna cyfradd o 12.5% am chwe mis arall tan 31 Mawrth 2022.
- Mwy na dyblu'r terfyn cyfreithiol ar gyfer taliadau digyswllt sengl, o £45 i £100.
- £10 miliwn i gefnogi cyn-filwyr ag anghenion iechyd meddwl ledled y DU.
- £19 miliwn i fynd i'r afael â cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr, gyda chyllid ar gyfer rhwydwaith o 'Ystafelloedd Seibiant' i gefnogi menywod digartref a rhaglen i atal aildroseddu.
- Bydd cyflogwyr bach a chanolig yn y DU yn parhau i allu adennill hyd at bythefnos o gostau Tâl Salwch Statudol cymwys fesul cyflogai o'r Llywodraeth.
- £100 miliwn ar gyfer Tasglu Diogelu Trethdalwyr newydd i fynd i'r afael â thwyllwyr COVID sydd wedi manteisio ar gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.