Cyllido Cymru yw'r llwyfan i chwilio am gyllid i'r trydydd sector yng Nghymru. Fe'i datblygwyd gan rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru i alluogi mudiadau trydydd sector i chwilio drwy gannoedd o gyfleoedd am grantiau ac arian benthyg o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Gall Cyllido Cymru helpu mudiadau yng Nghymru i ddod o hyd i'r cyllid sydd ei angen arnynt yn gynt nag erioed o'r blaen. Mae'r peiriant chwilio yn helpu defnyddwyr i ganfod ffynonellau perthnasol o gyllid yn gyflym ac yn effeithiol. Mae'r wefan ar gael yn rhad ac am ddim, mae ganddi broses gofrestru syml, ac mae modd i fudiadau chwilio am gyllid yn ôl diben, lleoliad a swm, ac mae meysydd pellach ar gael i fireinio canlyniadau chwilio. Mae modd i ddefnyddwyr hefyd gadw canlyniadau chwilio ac argraffu adroddiadau.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Cyllido Cymru (funding.cymru)
Canfod Cyllid
Gall darganfod ble i fynd i ganfod cyllid a dewis y math cywir fod yn anodd. Mae’n adnodd cyllid yma i helpu:
- Defnyddiwch ein Canfyddwr Cyllid i i ganfod opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes
- Darllenwch am Banc Datblygu Cymru benthyciwr unigryw i fusnesau yng Nghymru
- Darllenwch ganllawiau yn egluro'r gwahanol fathau o gyllid
- Canfod gwybodaeth am weithio gyda chyfrifwyr