Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru wedi creu Cyllido Cymru i’ch helpu i ddod o hyd i gyllid i’ch elusen, eich grŵp cymunedol neu’ch mudiad cymdeithasol.
Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol a’r corff aelodaeth cenedlaethol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Mae’r porth yn darparu gwybodaeth i aelodau o WCVA a Chynghorau Gwirfoddol Sirol ynglŷn â chanoedd o gronfeydd sy’n cefnogi prosiectau yng Nghymru. Gallwch gael gwybod am aelodaeth drwy gysylltu â’r mudiad o fewn rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru sy’n eich cynrychioli chi.
Ni ddarperir cyfleoedd am gyllid i unigolion na busnesau preifat.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Hafan (funding.cymru)
Canfod Cyllid
Gall darganfod ble i fynd i ganfod cyllid a dewis y math cywir fod yn anodd, defnyddiwch ein Canfyddwr Cyllid i i ganfod opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes.