BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymerwch ran yn yr Wythnos Addysg Oedolion a’r Diwrnod Sgiliau ar gyfer Gwaith ym mis Medi 2023

Plastic bottles in the ocean

Missing media item.

 

Fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion 2023, bydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cydlynu Diwrnod Sgiliau ar gyfer Gwaith ar 21 Medi i ganolbwyntio ar bwysigrwydd darparu cyfleoedd dysgu yn y gweithle.

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol a gaiff ei chydlynu mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru sy’n anelu i gysylltu pobl gydag ystod eang o gyfleoedd dysgu, cyngor a gwybodaeth.

Ar hyd yr Wythnos Addysg Oedolion, caiff amrywiaeth o sesiynau blasu ar-lein ac wyneb yn wyneb, cyrsiau byr, dyddiau agored, gwybodaeth a chyngor eu hyrwyddo drwy blatfform yr ymgyrch. Gall darparwyr addysg oedolion a hoffai gofrestru eu gweithgareddau drwy gydol mis Medi gael mwy o wybodaeth ar wefan yr ymgyrch

Cydnabod gwerth sgiliau ar gyfer gwaith

Mae cyfleoedd i ddysgu yn y gwaith yn hanfodol wrth gyfrannu at greu diwylliant o ddysgu gydol oes, darparu llwybrau i gynyddu sgiliau mwy o bobl a chreu gweithleoedd iachach.

Gall addysg oedolion fod â buddion sylweddol ac eang ar gyfer unigolion, yn cynnwys y rhai sy’n gysylltiedig gyda iechyd, cyflogaeth, bywyd cymdeithasol a’r gymuned. Canfu ein Adult Participation in Learning Survey 2022 fod y buddion mwyaf cyffredin a brofir gan ddysgwyr yn gysylltiedig â gwaith. Mae ychydig dros un mewn pump o oedolion yn credu eu bod wedi gwella’r sgiliau sydd eu hangen i wneud eu gwaith.

Mae’r buddion eraill a nodwyd gan yr ymatebwyr hynny yn cynnwys cynyddu hyder yn y gwaith, cael cymhwyster cydnabyddedig a chynhyrchiant uwch yn y gwaith neu wella ansawdd gwaith.

Ar Ddiwrnod Sgiliau ar gyfer Gwaith bydd sefydliadau ar draws Cymru yn rhoi’r sylw ar gyfleoedd i ddysgu ar gyfer gwaith.

Gall trefnu gweithgaredd fel rhan o’r Diwrnod Sgiliau ar gyfer y Gwaith roi ffocws i:

  • Ddathlu a hyrwyddo’r dysgu a’r sgiliau a gynigir a llwyddiannau pobl yn y gwaith i arddangos effaith.
  • Darparu cyrsiau blasu anffurfiol, sesiynau rhoi cynnig arni neu gyfleoedd gloywi sgiliau i fireinio sgniliau ar gyfer e.e. sgiliau hanfodol, technoleg i gynnig adolygiadau canol bywyd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
  • Rhannu sgiliau, darganfod talent ac angerdd cudd – cael hwyl, bod yn greadigol ac ysgogi brwdfrydedd dros ddysgu rhywbeth newydd.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd gweithle i ddysgu ac adeiladu mwy o ymgysylltu.
  • Ysgogi strategaethau dysgu a datblygu.

Rhannu eich ymchwil diweddaraf, adroddiadau neu flogiau gyda ffocws ar sgiliau.

Mae Dysgu a Gwaith yn croesawu sylwadau a syniadau ar gyfer y Diwrnod Sgiliau ar gyfer Gwaith. Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb yn y cyfle hwn, cysylltwch yn uniongyrchol gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn uniongyrchol: alwevents@learningandwork.org.uk – mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael ar eu gwefan


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.