Ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws yn caniatáu i chi hawlio grant trethadwy gwerth 80% o’ch elw masnachu misol, i’w dalu mewn un taliad unigol i gwmpasu gwerth 3 mis o elw, wedi’i gapio ar gyfanswm o £7,500.
Os ydych chi’n gymwys, mae’n rhaid i chi wneud cais am y grant cyntaf ar neu cyn 13 Gorffennaf 2020. Mae’r cynllun hwn yn cael ei ymestyn, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr estyniad i’r cynllun.
Gall gwahanol amgylchiadau effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws, gan gynnwys:
- os ydych chi’n aelod o bartneriaeth
- os ydych chi ar neu wedi bod ar absenoldeb rhiant
- os oes gennych chi fenthyciadau sydd wedi’u cynnwys o dan y tâl benthyciad a heb gytuno ar setliad gyda CThEM cyn 20 Rhagfyr 2019
- os ydych chi’n hawlio cymorth cyfartalog
- os nad ydych chi’n preswylio neu’n dewis y sail talu
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.