BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth a chefnogaeth i'r rheini sy'n dioddef caethwasiaeth fodern neu sy'n adnabod rhywun sy'n dioddef honno

Gall caethwasiaeth fodern effeithio ar bobl o bob oedran, rhyw a hil ac mae’n cynnwys gwahanol fathau o gamfanteisio. 

Mae caethwasiaeth fodern yn anghyfreithiol. Caiff ei diffinio i olygu bod plant, menywod neu ddynion yn cael eu recriwtio, eu symud, eu llochesu neu eu derbyn drwy ddefnyddio grym, pwysau, twyll, camdriniaeth neu unrhyw ddull arall er mwyn camfanteisio arnynt.

Mae caethwasiaeth yn cael ei galw’n drosedd gudd oherwydd mae’n gallu bod yn anodd nodi pwy sy’n dioddef.

Cafwyd achosion o bobl yn dianc ac yn mynd at yr heddlu. Ond does dim llawer yn gallu gadael eu mannau gwaith heb rywun yn eu hebrwng neu yn eu tywys, a dydyn nhw ddim yn rhydd i gysylltu â’u teulu, ffrindiau, neu aelodau o’r cyhoedd.

Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 0800 01 21 700, llinellau ar agor 24 awr y dydd ac maent yn ddi-dâl o linellau tir a'r rhan fwyaf o ffonau symudol.

Rhowch wybod am achos pryder ar wefan Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern, bydd un o’n cynghorwyr yn ei ddarllen o fewn 24 ac yn penderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd.

Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.