Wrth baratoi am y tymor ysgol newydd, bydd nifer o deuluoedd yn poeni am y cynnydd yng nghostau byw.
Mae cymorth ar gael i ddysgwyr a'u teuluoedd yng Nghymru sydd o bosibl yn cael trafferth fforddio costau ysgol, fel gwisg ysgol a chludiant, yn ogystal â rhai cynlluniau am ddim i helpu'ch plentyn i ddysgu.
Dyma wyth cynllun neu gymhorthdal addysg y gallech fod yn gymwys i'w cael.
- Cymorth gyda chostau diwrnod ysgol
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg
- Help gyda chostau trafnidiaeth
- Prydau ysgol am ddim
- Llyfrau am ddim
- Gwersi Cymraeg am ddim
- Trwyddedau Office 365 am ddim
- Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Cymorth ariannol ar gael i ddysgwyr a'u teuluoedd | LLYW.CYMRU