Gall busnesau bwyd a diod yng Nghymru gael cymorth ac arweiniad am ddim i fanteisio ar gyfleoedd caffael mawr yn y sector cyhoeddus.
Hwb bwyd a diod yw Larder Cymru. Mae'n dwyn ynghyd cynhyrchwyr a phroseswyr o Gymru fel eu bod mewn gwell sefyllfa i ymateb i gyfleoedd i gyflenwi’r sector gyhoeddus yng Nghymru.
Fel rhan o’u prosiect Larder Cymru, mae Menter Môn yn targedu cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd yng Nghymru, gyda gweledigaeth i leoleiddio’r gadwyn gyflenwi a chael effaith gadarnhaol ar yr economi, gwerthoedd cymdeithasol a’r amgylchedd.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn canolbwyntio ar gydgysylltu a chryfhau cysylltiadau o fewn cadwyni cyflenwi lleol i osod bwyd a diod a gynhyrchir yn rhanbarthol fel cynnig cymhellol ar gyfer contractau mawr ledled y wlad.
Am fwy o wybodaeth, ewch i Cymorth Busnes Am Ddim i Fusnesau Bwyd Cymru | Larder Cymru neu ebostiwch dafydd@mentermon.com