Bydd y gronfa’n darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd wedi cael effaith negyddol sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus COVID-19. Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021.
Yn benodol, bydd y gronfa’n cefnogi busnesau sydd naill ai:
a) Yn gorfod aros ar gau gan gyfyngiadau parhaus rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021
b) Methu agor dan do rhwng 1 Mai 2021 a 17 Mai 2021
c) Lleoliad sy'n darparu ar gyfer priodasau yn unig sydd â chapasiti cyfyngiedig o 30 o westeion
d) Yn fusnes cadwyn gyflenwi sy'n cynhyrchu 60% neu fwy o'i refeniw gwerthu gan fusnesau sy'n perthyn i gategorïau a) b) neu c)
Ac (yn berthnasol i bawb):
Wedi cael effaith negyddol sylweddol drwy lai o drosiant o 60% neu fwy ym mis Mai 2021 a Mehefin 2021 o'i gymharu â mis Mai 2019 a mis Mehefin 2019 a achoswyd yn uniongyrchol gan gyfyngiadau parhaus COVID-19.
Os ydych wedi derbyn grant drwy'r Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, Cronfa Chwaraeon Cymru neu Gronfa'r Trydydd Sector i gefnogi costau hyd at 30 Medi 2021, nid ydych yn gymwys i wneud cais am y gronfa hon.
I gael rhagor o wybodaeth, i wirio eich cymhwysedd a gwneud cais ewch i Covid-19 Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru.