BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) COVID-19

Mae ceisiadau am Gronfa Cadernid Economaidd COVID-19 ar gyfer cymorth busnes rhwng Mai 2021 a Mehefin 2021 bellach ar agor a byddant yn cau am 5pm ar 7 Mehefin 2021.

Gofynnir i fusnesau cymwys sydd â throsiant o lai na £85,000 wneud cais drwy eu hawdurdod lleol.

Mae Awdurdodau Lleol ledled Cymru wedi dechrau agor ceisiadau ar gyfer y busnesau hynny sy'n gymwys, os nad yw ceisiadau eich Awdurdod Lleol ar gael eto, dylech ailedrych yn rheolaidd am ddiweddariadau pellach.

I gael rhagor o wybodaeth, i wirio eich cymhwysedd a gwneud cais ewch i Covid-19 Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.