Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth a hyfforddiant i helpu pobl a busnesau i wella llesiant yn y gweithle:
- cymorth i helpu pobl cyflogedig a hunangyflogedig i reoli eu cyflwr iechyd a naill ai dychwelyd i’r gwaith neu aros yn y gwaith
- mae hyfforddiant a chymorth hefyd ar gael i helpu busnesau i wella llesiant yn y gweithle
Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cynnig cymorth therapiwtig cyfrinachol am ddim os ydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac:
- yn absennol o’ch gwaith oherwydd salwch, bydd yn eich helpu i ddychwelyd i’r gwaith
- yn dal i weithio ond yn cael anhawster oherwydd eich cyflwr iechyd, bydd yn eich helpu i aros yn y gwaith
Mae hyfforddiant a chymorth ar gael am ddim i fusnesau i helpu i wella llesiant eu gweithwyr yn y gweithle.
Cliciwch ar y ddoleni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cymorth cyflogaeth os oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol | LLYW.CYMRU