BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth cyntaf yn y gwaith: yr hanfodion


 

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2023
Diweddarwyd diwethaf:
6 Medi 2023

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cynhyrchu tudalennau gwe 'hanfodion ar gyfer eich busnes' sy'n cynnig cyngor iechyd a diogelwch, pa ddiwydiant bynnag rydych chi'n gweithio ynddo.

Mae’r canllaw cam wrth gam sylfaenol ar gymorth cyntaf yn y gwaith yn esbonio sut y gallwch gael y trefniadau cywir, gan gynnwys:

  • pecyn cymorth cyntaf
  • hyfforddi gweithwyr
  • cymorth cyntaf i weithwyr cartref
  • penodi cynorthwywyr cyntaf

Mae pynciau eraill 'hanfodion ar gyfer eich busnes' yn cynnwys adrodd ar ddamweiniau a salwch a sicrhau bod gennych chi’r cyfleusterau cywir yn y gweithle.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Health and Safety Made Simple: The basics for your business (hse.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.