BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithwyr

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn adeiladu a phrofi gwasanaeth ar-lein newydd i gyflogwyr sy'n rhoi cyngor ac arweiniad ar reoli iechyd ac anabledd yn y gweithle.

Mae'r gwasanaeth yn esbonio eich rhwymedigaethau cyfreithiol ac arfer da - gallai fod yn arbennig o ddefnyddiol i fusnesau llai heb gymorth Adnoddau Dynol mewnol neu fynediad at wasanaeth iechyd galwedigaethol. 

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cefnogi datblygu'r gwasanaeth hwn a hoffai eich cymorth i'w brofi.

Drwy gymryd rhan, byddwch yn derbyn gwybodaeth ac arweiniad am ddim ar faterion cyflogaeth yn gysylltiedig ag iechyd ac anabledd. Gallech ei ddefnyddio i helpu i reoli achos cyfredol, neu edrych o gwmpas y safle yn unig i weld beth sy'n ddefnyddiol ac amlygu gwelliannau.

Pa ffordd bynnag y byddwch yn dewis cymryd rhan, treuliwch amser i roi adborth. Bydd eich barn yn hanfodol i gefnogi datblygiad parhaus y gwasanaeth.  

Ewch i'r wefan Cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithwyr i sicrhau y caiff eich llais ei glywed.

 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.