BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithwyr

Support with Employee Health and Disability

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr.

Bydd y gwasanaeth newydd hwn, Cymorth gydag Iechyd ac Anabledd Gweithwyr, yn helpu i gefnogi gweithwyr a deall unrhyw ofynion cyfreithiol. Mae dolenni i Lywodraeth y DU a sefydliadau eraill a all helpu.

Bydd y canllawiau yn eich helpu gyda:

  • rheoli absenoldebau a chadw mewn cysylltiad
  • cael sgyrsiau gyda’ch gweithiwr, yn y gwaith ac allan o’r gwaith
  • penderfynu ar newidiadau i’w helpu i aros neu ddod yn ôl i’r gwaith
  • diogelu eich busnes a’ch gweithwyr gyda pholisïau a gweithdrefnau
  • rheoli sefyllfaoedd cymhleth

Sut mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio

Byddwch yn gweld cwestiynau am eich sefyllfa a chyngor yn seiliedig ar eich atebion.

Nid yw’r gwasanaeth yn storio gwybodaeth bersonol, ond gallwch gadw ac argraffu’r canllawiau.

Dewisiwch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithwyr – GOV.UK (dwp.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.