BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth i ddinasyddion yr UE hyd at ddiwedd 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd dinasyddion yr UE yng Nghymru yn parhau i allu cael cymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer eu ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE hyd at 31 Rhagfyr 2021.

Roedd y Cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr UE, dinasyddion o Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw yn yr UE a dinasyddion o’r Swistir, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd sy’n gymwys, ddiogelu eu statws preswylio ers i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Daeth y Cynllun i ben ddiwedd mis Mehefin 2021, ond mae’r Swyddfa gartref yn dal i dderbyn ceisiadau hwyr os oes sail resymol.
Mae’r cyhoeddiad  yn cadarnhau y bydd dinasyddion yr UE yn parhau i allu cael cymorth am ddim gan y cwmni cyfreithiol arbenigol Newfields Law hyd at ddiwedd 2021.

Mae hyn ar ben y cymorth cyfrinachol gan Cyngor Ar Bopeth Cymru a’r elusen Settled, y mae Llywodraeth Cymru wedi’i hariannu ers 2019.

Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.