BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth i Entrepreneuriaid Cymdeithasol 

People Meeting Social Communication Connection Teamwork Concept

Os oes gennych syniad ar gyfer menter gymdeithasol neu os ydych eisoes yn gwneud gwahaniaeth ac yn chwilio am gymorth i ddatblygu eich menter gymdeithasol, gwnewch gais am Ddyfarniad UnLtd.

Mae’r Dyfarniad yn cyfuno cyllid a chefnogaeth i’ch helpu i ddechrau arni neu dyfu. Yn dibynnu ar gam eich datblygiad, gall UnLtd gynnig hyd at £18,000 ar gyfer:

  • Dechrau arni – mae gennych syniad neu rydych wedi dechrau gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl, i’ch cymuned, neu mae gennych uchelgais i greu newid ar lefel genedlaethol, hyd at £8,000.
  • Uwchraddio – rydych eisoes yn rhedeg menter gymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae gennych dystiolaeth argyhoeddiadol o’ch effaith, hyd at £18,000.

Bydd o leiaf 50% o Ddyfarniadau UnLtd yn cefnogi entrepreneuriaid cymdeithasol sy’n dod o gefndir anabl a/neu Ddu, Asiaidd neu ethnig lleiafrifol.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 31 Rhagfyr 2023.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol UnLtd - Awards  

Hoffech chi ddechrau busnes sy’n gwneud gwahaniaeth? Gallwn ni eich helpu chi; dysgwch ragor yma Busnes Cymdeithasol Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.