BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth i fusnesau sy'n symud nwyddau i'r UE

Rheolau newydd i fusnesau 

  • Rhaid i chi ddatgan unrhyw nwyddau rydych chi'n eu hanfon i'r UE, gan roi manylion am yr hyn rydych chi'n ei anfon a'i werth, gan ddefnyddio ffurflen datganiad tollau. Gallwch chi gael cyfryngwr tollau i'ch helpu chi i wneud hyn.
  • Os ydych chi'n anfon nwyddau gan ddefnyddio gweithredwr parseli cyflym neu gludwr cyflym, byddan nhw'n datgan y nwyddau ar eich rhan, gan ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu. Gallai'r opsiwn hwn fod o fudd i fusnesau llai o faint nad ydynt yn bwriadu cael contract gydag asiant tollau.
  • Os ydych chi'n anfon nwyddau gwerth £900 neu lai drwy'r post, bydd y Post Brenhinol yn rhoi sticer datganiad tollau i chi ei lenwi a'i atodi i'r parsel. Ar gyfer nwyddau gwerth mwy na £900, bydd y Post Brenhinol yn cyflwyno'r datganiad tollau ar eich rhan, gan ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu.
  • Bydd angen Tystysgrif Iechyd Allforio (EHC) arnoch chi i allforio bwyd neu ddiod sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid megis cig, llaeth neu wyau.

Cymorth i allforwyr

  • Adnodd ar-lein Check How to Export Goods yr Adran Masnach Ryngwladol, lle gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am ffin y DU, a gweithdrefnau tollau ar gyfer dros 160 o farchnadoedd ledled y byd.
  • Canllawiau TAW am yr amodau ar gyfer TAW cyfradd sero ar y nwyddau rydych yn eu hallforio, a'r hyn y dylech chi ei wneud pan fyddwch chi'n allforio nwyddau o dan amgylchiadau penodol.
  • Y Gwasanaeth Cefnogi Masnachwyr am ddim y gallwch chi gofrestru ar ei gyfer, os byddwch chi'n symud nwyddau rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon.
  • Pecyn canllawiau ar-lein a ddatblygwyd gan DEFRA gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i dywys allforwyr pysgod drwy bob cam o'r daith allforio. Mae pob math o wybodaeth a chymorth ar gael i'ch helpu chi i sicrhau eich bod chi'n dilyn y rheolau newydd, gan gynnwys Siop Un Stop MMO.
  • Llinell Gymorth Tollau a Masnach Ryngwladol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi y gallwch chi ei ffonio i siarad â chynghorydd ar 0300 322 9434. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 8am i 4pm ar benwythnosau. Neu gallwch chi anfon eich cwestiynau at Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu ddefnyddio eu gwasanaeth gwe-sgwrs
  • Y fideos ar alw newydd sy'n canolbwyntio ar bynciau blaenoriaeth i fusnesau, megis allforio.
  • Canllawiau a hyfforddiant penodol ar symud nwyddau i mewn, allan neu drwy Ogledd Iwerddon.

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.