BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth i gefn gwlad Cymru yn dilyn hwb i dwristiaeth

Heddiw (dydd Mercher, 25 Mai 2022), mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi £26m i gyfyngu ar ôl troed carbon twristiaeth yng Nghymru, hybu bioamrywiaeth a gwella mynediad i gefn gwlad fel y gall pawb fwynhau ei harddwch.

Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad wrth iddi agor rhwydwaith cerbydau trydan (EV) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro – credir mai dyma'r rhwydwaith mwyaf helaeth mewn unrhyw barc cenedlaethol yn y DU gyda 74 o bwyntiau gwefru. 

Esboniodd y Gweinidog y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i helpu i wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy a chefn gwlad Cymru yn fwy gwydn yn dilyn twf gwyliau gartref yn ystod y pandemig.   

Mae rhai o'r ffyrdd y caiff ei ddefnyddio yn cynnwys: 

  • gwella cyfleusterau trafnidiaeth a thwristiaeth, yn enwedigmewnmannau poblogaidd i dwristiaid
  • gwella rhwydweithiau llwybrau troed gan ganolbwyntio'n benodol ar fynediad i bobl anabl 
  • ariannu prosiectau a fydd yn gwella Parciau Cenedlaethol Cymru fel y gallant storio carbon yn well a darparu gwell amddiffyniad i fywyd gwyllt

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Cymorth i gefn gwlad Cymru yn dilyn hwb i dwristiaeth | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.