BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i fusnesau y mae cyfyngiadau Covid yn effeithio arnynt

Bydd busnesau yng Nghymru sy'n dal i deimlo effeithiau cyfyngiadau Covid yn cael hyd at £25,000 o gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y pecyn cymorth brys yn talu costau gweithredu mis Gorffennaf a mis Awst 2021 busnesau y mae'n ofynnol iddynt aros ar gau ac sy'n parhau i ddioddef yn ddifrifol o ganlyniad i barhad y cyfyngiadau.

Bydd busnesau cymwys yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'u cadwyni cyflenwi y mae’r cyfyngiadau yn dal i effeithio’n ddifrifol arnynt, megis asiantau teithio, atyniadau y mae’r mesurau cadw pellter wedi cyfyngu arnynt a lleoliadau ar gyfer ymweliadau ysgol, hefyd yn gymwys i wneud cais am gymorth.

Bydd gan fusnesau cymwys hawl i daliad ychwanegol o rwng £1,000 a £25,000, yn dibynnu ar eu maint, eu strwythur a'u hamgylchiadau, i gynnwys cyfnod hyd at ddiwedd mis Awst 2021.

I fod yn gymwys i gael cymorth, rhaid i fusnesau ddangos bod eu trosiant wedi gostwng mwy na 60% o gymharu â'r llinell amser gyfatebol yn 2019 neu gyfwerth.  Bydd angen i bob busnes cymwys wneud cais am y cyllid. 

Mae ceisiadau ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd gyda throsiant o fwy na £85,000 nawr yn agored. Mi fyddan yn cau am 12pm Dydd Mawrth 27 Gorffennaf 2021.

Mae'r gwiriwr cymhwysedd ar agor ar wefan Busnes Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.