Mae'r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) wedi lansio gwasanaeth newydd i allforwyr. Os oes gennych fusnes yn y DU a'ch bod am werthu nwyddau neu wasanaethau dramor, defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ofyn cwestiwn i dîm cymorth allforio DIT. Gallwch ofyn unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’ch busnes, gan gynnwys:
- allforio i farchnadoedd newydd
- gwaith papur sydd ei angen arnoch i werthu eich nwyddau dramor
- rheolau ar gyfer gwlad benodol lle rydych am werthu gwasanaethau
Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.gov.uk/ask-export-support-team
Mae offeryn newydd wedi ei lansio yn ddiweddar hefyd sy’n gwirio sut i fewnforio neu allforio nwyddau, gyda chanllawiau wedi'u teilwra gam wrth gam. Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gael gwybodaeth am fewnforio ac allforio, gan gynnwys:
- sut i gofrestru eich busnes ar gyfer masnachu
- pa drwyddedau a thystysgrifau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich nwyddau
- talu'r dreth a'r tollau cywir ar gyfer eich nwyddau
- sut i wneud datganiadau er mwyn clirio’ch nwyddau ar ffiniau’r DU
- pa waith papur sydd angen i chi ei gadw
Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.gov.uk/check-how-to-import-export