BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth Tŷ’r Cwmnïau i fusnesau wedi’u taro gan COVID-19

Bydd busnesau’n cael cymorth ychwanegol i’w helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol.

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn oedi’r broses ddileu dros dro i atal cwmnïau rhag cael eu diddymu. Bydd hyn yn rhoi amser i fusnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt i ddiweddaru eu cofnodion, gan eu helpu i osgoi cael eu dileu o’r gofrestr.

Yn ogystal, bydd apelau cwmnïau a gafodd gosb ffeilio hwyr oherwydd COVID-19 yn cael eu trin gyda chydymdeimlad.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.