Mae Cymru Iach ar Waith (CIW) yn datblygu gwasanaeth digidol gydag offer rhyngweithiol i annog a chefnogi cyflogwyr yng Nghymru i gymryd camau rhagweithiol ar gyfer iechyd a llesiant eu gweithlu, gan gyfrannu at lwyddiant busnes a llesiant cymunedol.
Maen nhw’n chwilio am gyflogwyr yng Nghymru sy’n gallu sbario 10 munud (ar amser sy’n gyfleus i chi) i ymuno â nhw i lunio dyfodol gwasanaeth digidol newydd CIW drwy gwblhau gweithgaredd ar-lein byr.
Nid oes angen profiad blaenorol - dewch â'ch brwdfrydedd a helpwch ni i greu rhywbeth anhygoel!
I gael rhagor o wybodaeth ac i lenwi’r arolwg, dewisiwch y ddolen ganlynol: Welcome | Treejack by Optimal Workshop