Bydd annog rhagor o ferched i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn helpu Cymru i arloesi wrth fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mawr sy’n wynebu cymdeithas, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.
I nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, sy’n digwydd yn flynyddol, dywedodd y Gweinidog bod angen i ragor o ferched ifanc ddilyn gyrfaoedd mewn STEM os yw Cymru am wireddu ei photensial economaidd, ynghyd â gwireddu ei huchelgais o ddod yn genedl sydd wir yn gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Nid yw gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg erioed wedi bod yn bwysicach o ran dod o hyd i atebion i’r problemau byd-eang mawr sy’n wynebu cymdeithas. Mae menywod ysbrydoledig ledled Cymru wedi chwarae rolau allweddol wrth fynd i’r afael â’r heriau sylfaenol a wynebir gan ein cymdeithas, gan gynnwys adfer yn sgil COVID-19 a threchu’r argyfwng hinsawdd.
I nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, dywedodd y Gweinidog ei bod hi’n bwysicach nag erioed inni annog llawer mwy o fenywod a merched i ddilyn gyrfaoedd mewn STEM. Dywedodd y Gweinidog bod Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod hynny’n digwydd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i LLYW.Cymru