BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero

Hwn fydd y cam olaf ym mhroses raddol Llywodraeth Cymru o godi camau diogelu lefel rhybudd dau, a ddaeth i rym ar ddydd San Steffan i ddiogelu Cymru wrth i’r don omicron ledaenu drwy’r wlad.

Bydd rhai camau diogelu pwysig yn aros mewn grym ar lefel rhybudd sero, gan gynnwys gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus dan do, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Ddydd Gwener 28 Ionawr 2022, bydd Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero. Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • Gall clybiau nos ailagor.
  • Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sy’n agored i’r cyhoedd a phob gweithlu yn cael ei ddileu.
  • Ni fydd y rheol chwe pherson yn berthnasol mwyach wrth ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, fel safleoedd lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig a chasglu manylion cyswllt mwyach.
  • Bydd angen cael Pàs Covid o hyd i fynd i ddigwyddiadau dan do mawr, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.
  • Bydd gweithio gartref yn dal i fod yn bwysig ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach.
  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol i’r coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau ei ledaeniad, a all gynnwys pellter cymdeithasol o 2m neu fynediad dan reolaeth.

Bydd y rheolau ar gyfer gwisgo gorchudd wyneb, sy’n gymwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn y rhan fwyaf o leoliadau dan do cyhoeddus, yn parhau i fod mewn grym ar ôl 28 Ionawr 2022, gyda lleoliadau yn y diwydiant lletygarwch fel bwytai, tafarnau, caffis a chlybiau nos wedi’u heithrio.

Rhaid i bawb hefyd barhau i hunanynysu os ydynt yn profi’n bositif am y coronafeirws ond mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau’r cyfnod hunanynysu o saith diwrnod i bum diwrnod llawn.

Cynghorir i bobl gymeryd dau brawf llif unffordd negatif 24 awr ar wahan ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech. Bydd y cynllun cymorth hunanynysu yn dychwelyd i’r gyfradd wreiddiol o £500 ar gyfer pawb sy’n gymwys.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 10 Chwefror 2022, pan fydd holl fesurau lefel rhybudd sero yn cael eu hadolygu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i LLYW.Cymru a Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (28 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.