![Minister for Finance, Rebecca Evans](/sites/maingel2/files/styles/post_featured/public/images/IMG_0250.jpeg.webp?itok=_Afsa0jQ)
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Ffrainc fel 'cyrchfan numéro un' ar gyfer allforion bwyd a diod o Gymru mewn dathliad bwyd yn Lyon.
Mewn diwydiant sy'n werth £150 miliwn i economi Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Hybu Cig Cymru, Arloesi Bwyd Cymru a chwmnïau bwyd a diod o Gymru i gynnal digwyddiad arddangos blasus fel rhan o'u presenoldeb yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd a menter 'Cymru yn Ffrainc' Llywodraeth Cymru.
Mae Cymru yn Ffrainc yn ddathliad dros flwyddyn o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon sydd wedi'u cynllunio i gryfhau'r cysylltiadau presennol a meithrin cysylltiadau newydd rhwng y ddwy wlad.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cymru yn dathlu 'cyrchfan numéro un' ar gyfer allforion bwyd a diod gydag arddangosfa goginio Ffrengig | LLYW.CYMRU