BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru Ystwyth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddodd cyllid newydd er mwyn helpu i gynnal a chryfhau cysylltiadau busnes, economaidd ac ymchwil Cymru gyda rhanbarthau Ewropeaidd, a hynny yn dilyn i’r DU adael yr UE.

Bydd rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru Ystwyth yn cefnogi busnesau a sefydliadau Cymru i ddatblygu cydweithredu economaidd yn ardal Môr Iwerddon a chyda rhanbarthau Ewropeaidd eraill.

Dros y 12 mis nesaf, bydd y rhaglen yn dyrannu grantiau i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru er mwyn cynnal a datblygu partneriaethau, rhwydweithiau a chydweithrediadau newydd gyda rhanbarthau a gwledydd pwysig yng ngweddill Ewrop.

Ym mis Chwefror, lansiodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Môr Iwerddon newydd er mwyn arwain a dylanwadu ar gamau gweithredu er mwyn cynyddu cydweithredu economaidd ar draws ardal Môr Iwerddon ac o’i chwmpas.

Er mwyn cefnogi’r cydweithredu hwn, mae grantiau Cymru Ystwyth gwerth hyd at £40,000 bellach ar gael i fusnesau a sefydliadau Cymru, a hynny ar gyfer teithio, meithrin cysylltiadau, ymgynghori, sefydlu rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau treialu.

Mae cyllid ar gyfer ardal Môr Iwerddon wedi’i anelu at ysgogi cydweithredu o ran yr economi forol yn ogystal ag ym meysydd arloesi, cymunedol a diwylliannol.

Bydd cyllid pellach hefyd o gymorth i ddatblygu cysylltiadau economaidd gyda rhanbarthau pwysig yr Undeb Ewropeaidd megis Gwlad y Basg, Baden-Württemberg, Llydaw, Fflandrys, Catalwnia a Galisia.

Mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael i fusnesau a sefydliadau Cymru sydd â diddordeb mewn datblygu cyfleoedd economaidd gyda rhanbarthau’r UE a throsglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.