BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru yw’r wlad gynta yn y DU i fynnu dyfais fonitro ar bob cwch pysgota masnachol

Cymru heddiw (15 Chwefror 2022) yw’r wlad gyntaf yn y DU i fynnu bod System Monitro Cychod (VMS) yn cael ei gosod ar ei holl gychod pysgota masnachol trwyddedig.

Mae eisoes gofyn ar bysgotwyr i osod dyfais o’r fath ar gychod 12 metr a mwy ond mae Gorchymyn yn dod i rym heddiw (15 Chwefror 2022) sy’n golygu bod cychod llai, mwy na 350 ohonyn nhw, yn gosod dyfais o’r fath.

Cychod o dan 12 metr o hyd yw tua 97% o holl gychod pysgota cofrestredig Cymru.

Bydd y VMS yn trosglwyddo lleoliad, dyddiad, amser, cyflymder a chwrs y cwch, o leiaf unwaith bob 10 munud, wrth iddo bysgota.

Mae hyn yn bwysig er mwyn cael darlun llawn a chywir o weithgarwch cychod pysgota ym Mharth Cymru, ac o gychod sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru pa le bynnag maen nhw, i reoli amgylchedd y môr a physgodfeydd yn well.

Am ragor o wybodaeth ewch i LLYW.Cymru

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.