BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru'n croesawu cyfranogiad parhaus y DU yn rhaglen Horizon Ewrop gwerth €100 biliwn

group of colleagues

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi croesawu’r newyddion y bydd gan y DU fynediad parhaus at Horizon Europe, rhaglen ymchwil ac arloesi flaenllaw yr Undeb Ewropeaidd, sy’n werth €100 biliwn.

Mae’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU heddiw y bydd y DU yn dod yn aelod “gwlad gysylltiol” y rhaglen, cam yr oedd Llywodraeth Cymru wedi pwyso amdano yn ystod negodiadau Brexit, sy’n golygu y bydd gan wyddonwyr, prifysgolion a busnesau yng Nghymru fynediad parhaus at y rhaglen. 

Mae'r cam hwn yn golygu y bydd sefydliadau'n gallu parhau i wneud cais am gyllid o dan y rhaglen yn yr un ffordd ag aelod-wladwriaethau'r UE.

Mae Horizon 2020, rhagflaenydd Horizon Ewrop, wedi darparu platfform i ymchwilwyr a busnesau yng Nghymru gymryd rhan mewn prosiectau dros €2.5 biliwn, gyda 81 o wledydd yn cymryd rhan a chyda grantiau gwerth €153 i Gymru hyd yn hyn. 

Drwy gydol negodiadau Brexit rhwng yr UE a'r DU, roedd Llywodraeth Cymru'n gwbl glir y dylai Llywodraeth y DU negodi mynediad llawn at Horizon Ewrop.

Ac yntau'n rhedeg tan 2027 gyda chyllideb o ryw €100 biliwn, Horizon Ewrop yw'r rhaglen drawswladol fwyaf erioed sy'n cefnogi ymchwil ac arloesi, gydag uchelgeisiau Ewrop fel arweinydd byd-eang yn sail iddi.

A hithau'n cael ei rhedeg gan y Comisiwn Ewropeaidd, mae'r rhaglen yn cefnogi ymchwil hanfodol ac arloesol, ac yn cynnig cyfle o bwys i Gymru barhau'n bartner egnïol a dylanwadol yn rhyngwladol, gan gynyddu atyniad y wlad i dalent ac effeithiolrwydd ei hymchwil.

Mae Llywodraeth Cymru'n annog ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru i ddatblygu cymwysiadau, ac i sefydliadau ledled Ewrop fanteisio ar statws Gwlad Gysylltiol y DU i weithio gyda gwyddonwyr, busnesau, sector cyhoeddus a chymdeithas sifil Cymru.

Tanlinellodd Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol Cymru yr angen i sicrhau newid sylweddol mewn gweithio trawsffiniol a rhyngwladol, wedi'i rymuso gan fuddsoddi rhanbarthol.

Er bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod unrhyw gyllid cyfnewid a bod hyn wedi golygu fod Cymru £1.1 biliwn yn brin drwy ei Chronfa Ffyniant Gyffredin, mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gefnogi gweithio rhyngwladol a thrawsffiniol drwy ei rhaglen Cymru Ystwyth.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cymru'n croesawu cyfranogiad parhaus y DU yn rhaglen Horizon Ewrop gwerth €100 biliwn | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.