Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi camau brys i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â lefelau heintio uchel o ran y coronafeirws rhag teithio i Gymru. Cadarnhawyd hynny heddiw gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
O dan y rheoliadau newydd sy’n cael eu paratoi gan Weinidogion Cymru, ni fyddai pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion o’r coronafeirws yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael teithio i Gymru am y tro.
Byddant yn helpu i atal y feirws rhag symud o ardaloedd o’r fath i gymunedau lle nad oes cynifer o achosion.
Y bwriad yw y bydd y cyfyngiadau newydd ddod i rym am 6pm ddydd Gwener 16 Hydref 2020.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.