BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynadleddau MIT ILP Hydref 2023

MIT students walking towards the famous dome, Massachusetts Institute of Technology in Boston,

Fel aelod o Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) – Rhaglen Cyswllt Diwydiannol (ILP), gall Llywodraeth Cymru hwyluso cyfle i nifer bach o fusnesau yng Nghymru i fynd i gynadleddau 4/5-diwrnod.

Cynhadledd Technoleg Ddigidol a Strategaeth MIT 2023: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i Gyflymu Trawsnewid Digidol – 25-26 Hydref 2023 - Dyddiad Cenhadaeth: 23-27 Hydref 2023 

Mae trawsnewid digidol yn chwyldroi’r ffordd y mae cwmnïau’n datblygu, cynhyrchu, hyrwyddo a dosbarthu nwyddau a gwasanaethau. Drwy integreiddio technolegau digidol yn eu gweithrediadau a’u prosesau, gall sefydliadau feithrin arloesedd, hybu cynhyrchiant a rhyddhau gwerth sylweddol.

Cynhadledd Ymchwil a Datblygu MIT 2023: Gweledigaeth ar gyfer Effaith Trawsnewidiol – 15-16 Tachwedd 2023 - Dyddiad Cenhadaeth: 13-17 Tachwedd 2023

Mae MIT yn adnabyddus am ei gysylltiadau addysg, ymchwil ac arloesi, sy’n esgor ar ymchwil gyhoeddedig, myfyrwyr dawnus a busnesau newydd trawiadol sy’n adeiladu’r dyfodol. Eleni, rydym yn archwilio, mewn ffordd unigryw, weledigaeth MIT ar gyfer technoleg newydd a’i heffeithiau rhagweledig ar y byd. Bydd Sally Kornbluth, Llywydd newydd MIT, yn rhannu ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol MIT, a byddwn yn clywed gan arweinwyr y pum ysgol a’r coleg yn MIT am “bwnc llosg” eu hysgol ar hyn o bryd ynghyd â beth “sydd wrthi’n cynhesu”. Byddwn yn archwilio llawer o’r pynciau hynny yn fanylach yn ein diweddariadau technoleg ym meysydd ynni, biotechnoleg, deunyddiau, gweithgynhyrchu, symudedd a thechnoleg ariannol.

Mae’r tâl mynediad i’r gynhadledd eisoes wedi’i gynnwys drwy aelodaeth Llywodraeth Cymru o’r Rhaglen Cyswllt Diwydiannol. Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfraniad arian cyfatebol o hyd at 50% i’r cwmnïau sy’n cymryd rhan, a hynny’n benodol tuag at dalu am:

  • Teithiau awyr dwyffordd
  • Teithiau rhwng y maes awyr a’r gwesty yn Boston
  • Llety gwely a brecwast am 3 noson 

O ganlyniad, rhagwelir mai tua £1,000 – £1,500 fydd cost mynychu’r gynhadledd hon i’ch busnes.

I gael rhagor o wybodaeth am gofrestru, neu os oes gennych ddiddordeb mynd i Gynhadledd Technoleg Ddigidol a Strategaeth MIT 2023 or Gynhadledd Ymchwil a Datblygu 2023 yn bersonol, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i WelshGovernmentILPMIT@gov.wales 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.