Yn sgil amcangyfrif bod £2 biliwn o fudd-daliadau heb eu hawlio yng Nghymru, mae ymdrech newydd ar waith i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo ac i gynyddu incwm eu haelwydydd.
Drwy fuddsoddiad o £36 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae cyngor cyfrinachol ac am ddim ar gael i arwain pobl drwy'r broses hawlio, gan ddefnyddio gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl i gynyddu incwm.
Caiff y gwasanaethau hynny eu cefnogi gan ymgyrch genedlaethol a ariennir gan Lywodraeth Cymru , sef Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi, sy'n rhoi cyngor ar sut i hawlio'r budd-daliadau a allai fod ar gael i chi. P'un a ydyw'n ymwneud â gwneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans Gofalwr neu Gredyd Pensiwn, mae cymorth ar gael i unrhyw un sydd angen cyngor ar yr hawliau ariannol sydd ar gael iddynt trwy linell gymorth Advicelink Cymru 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'.
Ers ei lansio yn 2020, mae gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu pobl ledled Cymru i sicrhau £160 miliwn o incwm ychwanegol a dileu £43.6 miliwn o ddyledion. Ac y llynedd, roedd llinell gymorth Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei gynnal gan wasanaethau lleol Cyngor ar Bopeth, wedi helpu 36,800 o bobl i ddatrys dros 120,000 o broblemau ariannol, tai a chyflogaeth.
Mae cynghorwyr Advicelink Cymru 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' yn barod i'ch helpu i wirio a ydych yn gymwys i gael incwm ychwanegol ac i'ch tywys drwy'r broses hawlio. I gael cyngor am ddim, ffoniwch 0800 702 2020
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Cyngor a chymorth am ddim i hawlio'r hyn sy'n ddyledus i chi | LLYW.CYMRU