BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyngor wedi'i ddiweddaru ar awyru ac aerdymheru yn ystod y pandemig

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi diweddaru ac ychwanegu at ei gyngor i helpu cyflogwyr i sicrhau awyru digonol yn eu gweithleoedd yn ystod y pandemig.

Nod y canllawiau hyn yw eich helpu i nodi ardaloedd sydd wedi'u hawyru'n wael a chymryd camau perthnasol. Hefyd, mae’n rhoi arweiniad ar ffactorau eraill i'w hystyried wrth asesu'r risg o drosglwyddo aerosol, a phenderfynu a oes digon o awyru'n cael ei ddarparu i leihau'r perygl hwn.

Dylech fanteisio i’r eithaf ar awyr iach yn eich lleoliad a gellir gwneud hyn drwy:

  • awyru naturiol
  • awyru mecanyddol
  • cyfuniad o awyru naturiol a mecanyddol, er enghraifft lle mae awyru mecanyddol yn dibynnu ar awyru naturiol er mwyn manteisio i’r eithaf ar awyr iach

Darllenwch y canllawiau diweddaraf i weld sut gallwch chi ddarparu awyru digonol yn eich gweithle, gan helpu i amddiffyn gweithwyr a phobl eraill rhag trosglwyddo coronafeirws.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.