BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar raglen frechu COVID-19 2023

Datganiad Ysgrifenedig: Cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar raglen frechu COVID-19 2023, Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol, sy'n cynghori adrannau iechyd y Deyrnas Unedig am imiwneiddio, gan wneud argymhellion am amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau.

Fel rhan o'i adolygiad parhaus o’r rhaglen frechu COVID-19, mae'r JCVI heddiw wedi cyhoeddi datganiad yn cynnwys ei gyngor diweddaraf ar raglen 2023.

Er bod lefel uchel o imiwnedd wedi datblygu yn y boblogaeth dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, mae'r risg o gael COVID-19 difrifol yn parhau i fod yn anghymesur o uchel i grwpiau oedran hŷn, preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn, a phobl â chyflyrau iechyd penodol sy’n bodoli eisoes. Mae ansicrwydd yn parhau hefyd ynghylch esblygiad y feirws, parhad ac ehangder yr imiwnedd, ac epidemioleg yr haint.

Ar gyfer grŵp llai o bobl (megis pobl hŷn a phobl ag imiwnedd gwan) mae’r JCVI wedi nodi ei bod yn bosibl y byddai dos ychwanegol o frechlyn atgyfnerthu yn cael ei gynnig yn ystod gwanwyn 2023. Mae wedi nodi hefyd y byddai pobl sydd â mwy o risg o gael COVID-19 difrifol yn cael cynnig dos ychwanegol o frechlyn atgyfnerthu yn ystod hydref 2023. Mae'n bosibl y bydd angen ymateb ychwanegol drwy roi brechlynnau ar frys hefyd pe bai amrywiolyn newydd sy’n peri pryder yn dod i’r amlwg sydd â gwahaniaethau biolegol clinigol arwyddocaol o’i gymharu â'r amrywiolyn Omicron.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar raglen frechu COVID-19 2023 (25 Ionawr 2023) | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.