BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyngor yr Awdurdod Safonau Hysbysebu i Fusnesau Bach

Mae rheolau hysbysebu’r DU (sef y ‘CAP Code’ a’r ‘BCAP Code’), yn berthnasol i fusnesau yn y Deyrnas Unedig a phawb sy’n marchnata neu’n hysbysebu eu busnes yng ‘nghyfryngau’r DU’, o unig fasnachwr i uwchgwmni byd eang.

Mae’r rheolau hyn yn helpu i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu trin yn deg a bod busnesau’n elwa o gae chwarae gwastad.

Mae’r Awdurdodau Safonau Hysbysebu (ASA) wedi creu adnodd newydd yn arbennig i fusnesau bach. Mae’r adnodd yn cynnwys casgliad o ddeunyddiau i helpu busnesau i ddeall rheolau hysbysebu a’r ffordd orau i’w dilyn. Mae pynciau’n cynnwys sut i osgoi camarwain defnyddwyr, manylion am hawliadau prisio a sut i farchnata hyrwyddiadau a chystadlaethau’n gyfrifol. 

Am wybodaeth bellach, dilynwch y ddolen ganlynol Advice for small businesses - ASA | CAP
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.