BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Busnesau Bach Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) De Cymru 2024

group of people of at a business conference applauding

Mae cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) De Cymru yn ôl, gyda siaradwyr a chyfleoedd i rwydweithio er mwyn helpu eich busnes i dyfu.

Bydd y digwyddiad yn cwmpasu tri maes eang yn ystod y dydd:

  1. Lles mewn Busnes
  2. Tyfu eich Busnes
  3. Ennill Mwy o Gwsmeriaid.

Bydd y sesiynau penodol yn cynnwys:

  • Manteision Lles i Fusnesau
  • Gofalu Amdanoch eich Hun mewn Busnes
  • Gofalu am Staff a Chydweithwyr mewn Busnes
  • Cynllunio Twf Eich Busnes
  • Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn Busnesau Bach
  • Cael Gafael ar Gyllid ac Ymdopi â Thaliadau Hwyr
  • Datblygu Cynllun Marchnata Effeithiol ar gyfer Busnes Bach
  • Brandio ar gyfer Busnesau Bach
  • Defnyddio LinkedIn i Gael Mwy o Gyfarfodydd Gwerthu

Cynhelir y digwyddiad yng Ngwesty’r Village, Caerdydd ar 4 Medi 2024 a bydd y tocynnau ar werth tan ddydd Mercher 28 Awst 2024. Mae tocynnau â chymhorthdal ​​ar gael am £10 y person yn unig.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: FSB | FSB South Wales Small Business Conference


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.